Mae eu cryno ddisg “Dau Fel Ni” ar gael yn awr am £12.95 (yn cynnwys cludiant)
Mae Aled ac Eleri, y cantorion adnabyddus o Gilycwm – y par priod cyntaf i ennill Rhuban Glas yr un – yn rhyddhau cryno ddisg o ddeuawdau.
Maent wedi bod wrthi ers misoedd yn dewis ystod eang o ganeuon apelgar. Mae’n gasgliad o’r cyfarwydd a’r newydd, gan gynnwys trefniannau o alawon gwerin, emynau a chaneuon cyfoes. Yn ogystal, mae yna ambell berl clasurol yn wrthgyferbyniad llwyr i ysgafnder a hiwmor ambell gân.
Mae Aled ac Eleri yn canu’n gyson yng Nghymru a thu hwnt fel unawdwyr, ac wedi cael profiadau gwerthfawr o berfformio yn Ewrop, Gogledd America ac Awstralia. Ar y llaw arall, maent hefyd wedi cyfrannu’n helaeth o’i talentau i gefnogi elusennau ac achosion da lleol.
Gwahoddwyd Shân Cothi i ymuno, fel gwestai arbennig, ar un o’r caneuon. Yn ffrind annwyl, mae hi erbyn hyn wedi dychwelyd at ei gwreiddiau trwy ymgartrefu yn Nyffryn Tywi.
Bydd y Cryno Ddisg ar gael cyn y Nadolig mewn siopau Cymraeg ledled Cymru, yn ogystal a Cegin y Porthmyn, Canolfan Grefftau, Llanymddyfri, ac IgamOgam, Llandeilo.
JPA Martini, RJ Davies. (Trefn. Meirion Wynn Jones)
Hoff emyn tad Eleri, y diweddar Trebor.
Jeff Howard, Robert Burns.
Cân hyfryd gyfoes i eiriau’r Albanwr o fardd.
Michael J Lewis, Eluned Phillips. (Trefn. Jeff Howard)
Geiriau y bardd liwgar o Genarth, a cherddoriaeth y cyfansoddwr ffilmiau o Los Angeles.
Cezar Frank.
“Bara Angylion Duw” - Cân gysegredig adnabyddus.
Brian Hughes, W Rhys Nicholas.
Carol Nadolig gan J Brian Hughes, athro canu Eleri.
Tradd. (Trefn. Meirion Wynn Jones)
Trefniant newydd a hudolus.
Seymour Smith, G Hubi Newcombe.
Deuawd nodweddiadol o’r cyfnod Fictorianaidd.
Cosi Fan Tutte - WA Mozart, La Ponte.
Triawd operatig sy’n blethiad hyfryd o leisiau Aled ac Eleri, gyda’u ffrind annwyl Shân Cothi.
Robat Arwyn, William Williams.
Cân gyfoes ar eiriau emyn enwog Pantycelyn, sydd a chysylltiad agos a Cilycwm.
Michael J Lewis, Eluned Phillips. (Trefn. Jeff Howard)
Cân serch arall gan y ddau a gyfansoddodd Rhamant Dau.
Vince Clark, Cyf. Tudur Dylan Jones. (Trefn. Jeff Howard)
Cyfieithiad o’r gân ysgafn o’r wythdegau.
“Les Contes d’Hoffmann” – Jacques Offenbach, Jules Barbier.
“Nos o Sêr a Nos o Serch” – Alaw mwyaf adnabyddus yr opera.
Allan Murray, Edward Lockton. (Arr. David Jenkins)
Deuawd poblogaidd o’r Ail Ryfel Byd.
Tradd. (Trefn. Brian Hughes)
Trefniant pwerus o’r alaw werin hyfryd.
Ruth Lloyd Owen. (Trefn. Jeff Howard)
Deuawd ysgafn am y trafferthion tafodiaith rhwng de a gogledd, gan ein chwaer yng nghyfraith, Ruth.